R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)1162(FM)
2. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Nhorfaen?OAQ(4)1167(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain?OAQ(4)1156(FM)
4. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau twristiaeth treftadaeth yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1168(FM)W
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?OAQ(4)1157(FM)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch model pwerau a gedwir yn ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)1159(FM)
7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad economaidd Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Cymru?OAQ(4)1166(FM)
8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod digon o brotocolau diogelu ar waith ar gyfer plant ac oedolion agored i niwed?OAQ(4)1161(FM)
9. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer cefnogi gwasanaethau iechyd?OAQ(4)1164(FM)
10. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yng nghyswllt y targedau allweddol ym maes iechyd a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu? OAQ(4)1160(FM)
11. Julie James (Gorllewin Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu Rhanbarth Dinesig Bae Abertawe? OAQ(4)1163(FM)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bodloni safonau cydraddoldeb yng nghyswllt cyfansoddiad Byrddau Sector Cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)1165(FM)
13. Eluned Parrott (Canol De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu prentisiaethau i’r rheini sy’n gadael yr ysgol yng Nghymru?OAQ(4)1158(FM)
14. Peter Black (Gorllewin De Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Chymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL) a thîm prosiect Cornerstone Mutual Services ynghylch y Rhaglen Ehangu Undebau Credyd?OAQ(4)1155(FM)